|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Ty Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Peter Black Rosemary Butler (Cadeirydd) Jocelyn Davies Jane Hutt Nick Ramsay |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Peter Greening, Llywodraeth Cymru Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi.
3. Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Nododd y Pwyllgor Busnes ei fod yn bosibl y bydd Dirprwy Lywydd dros dro yn cael ei ethol ar ddechrau’r cyfarfod yn absenoldeb y Dirprwy Lywydd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn yr amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i’r Comisiwn o 15 munud i 30 munud.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd pleidleisio ar y cynigion a ganlyn yn digwydd ar ddiwedd yr eitem berthnasol:
o Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas ag anghymhwyso Aled Roberts (15 munud)
o Cynnig o dan adran 17(30) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas ag anghymhwyso John Dixon (15 munud)
Ddydd Mawrth, bydd pleidleisio ar yr holl eitemau eraill yn cael ei ohirio tan y Cyfnod Pleidleisio, a fydd yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Cyfnod Pleidleisio yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Nododd y Pwyllgor Busnes drefn busnes ar gyfer 5 a 6 Gorffennaf.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
O ystyried bod y Llywodraeth wedi trefnu dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Lleoliaeth ar 12 Gorffennaf, cytunodd y Rheolwyr Busnes i wahodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i adrodd ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol cyn iddo gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf.
Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad, yn amodol ar y penderfyniadau a wnaed o dan eitemau 3(iv) a 3(v).
3(iv) Dadleuon ar gynigion a gynigir gan Aelodau unigol
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar y meini prawf ar gyfer dethol cynigion ar gyfer dadleuon a gyflwynir gan Aelodau unigol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai dadleuon Aelodau unigol fynd rhagddynt ar gynnig terfynol y gellir ei ddiwygio, gyda chefnogaeth Aelodau o leiaf tair plaid. Cytunwyd y dylid eu gwaredu drwy bleidlais. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu dadl awr o hyd yn hanner cyntaf tymor yr hydref i ddechrau, ac i adolygu’r meini prawf os oes angen, yn sgîl y galw am slotiau.
3(v) Amserlen y Cynulliad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen newydd ar gyfer y Cynulliad o fis Medi 2011 ymlaen, sy’n cynnwys:
o yr amser sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau plaid;
o y dyddiadau a’r amserlen ar gyfer cwestiynau llafar;
o y modd y caiff amser ei rannu rhwng busnes y Llywodraeth a busnes y Cynulliad:
|
Y Cyfarfod Llawn |
Math o fusnes |
Amser a neilltuwyd |
|
Dydd Mawrth, 13.30 |
Busnes y Llywodraeth |
4 awr |
|
Dydd Mercher, 13.30 |
Busnes y Llywodraeth
|
1.5 awr |
|
|
Busnes y Cynulliad
|
3.5 awr |
o dyddiadau arfaethedig ar gyfer y toriadau, sef:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amser a gaiff ei neilltuo gan y Cynulliad ar gyfer y mathau o ddadleuon a ganlyn:
o dadleuon y gwrthbleidiau – neilltuo’r hyn sy’n weddill o amser y Cynulliad ar gyfer dadleuon y gwrthbleidiau, gan gylchdroi rhwng grwpiau (fel y cytunwyd ar 8 Mehefin 2011).
o dadleuon Aelodau unigol – fel y cytunwyd o dan eitem 3(iv) uchod.
o y Ddadl Fer – yn wythnosol ar ddydd Mercher am 30 munud.
4. Pwyllgorau
4(i) Amserlen y Pwyllgor
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddull o amserlennu pwyllgorau, ond cytunodd i geisio barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr amser a fyddai’n well ganddo, sef naill ai prynhawn Mawrth neu brynhawn Iau.
4(ii) Amserlen y gyllideb
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y terfyn amser ar gyfer y Pwyllgor Cyllid i adrodd ar gyllideb ddrafft 2012-13, a chytunwyd ar 8 Tachwedd 2011. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4.
5. Rheolau Sefydlog
5(i) Newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad - adroddiad drafft
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog yn sgîl y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad ym mis Mawrth, a chymeradwywyd yr adroddiad. arno. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog ar gyfer trafodaeth y Cynulliad ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2011.
Busnes Arall
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod yn gyhoeddus ar 12 Gorffennaf (8.50 – 9.30) i drafod y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog sy’n weddill yn sgîl y Refferendwm (Gorchmynion adran 109).